Corff yr Eglwys |
|
![]() |
Ym mhrif wasanaethau'r Eglwys Gadeiriol, mae'r gynulleidfa yn eistedd yng nghorff yr eglwys. Mae digon o le ar gyfer y niferoedd mawr sy'n dod, ac mae aelodau'r côr hefyd yn eistedd yng nghorff yr eglwys. |
![]() |
Yn y llun hwn gwelir nenfwd corff yr eglwys. Defnyddir y ffotograff drwy ganiatâd caredig gwefan Eglwys Gadeiriol Tyddewi. |
|
Ar gyfer gwasanaethau carolau, Sul y Cofio neu Sul y Môr efallai y bydd 700 o bobl yn y gynulleidfa. Yn y llun hwn gwelir y Gwasanaeth Carolau. Defnyddir y ffotograff drwy ganiatâd caredig gwefan Eglwys Gadeiriol Tyddewi. |
![]() |
Caewch y ffenestr hon i ddychwelyd i'r daith rithwir. |


